Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan
Julie James AC. Dirprwyodd Joyce Watson AC ar ei rhan. |
||
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-23-13(p1)
-
Gwybodaeth Gefndir am Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr
offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt. |
||
CLA311 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2013 Y weithdrefn
negyddol; Fe'u gwnaed ar: 21 Medi 2013;
Fe'u gosodwyd ar: 26 Medi 2013; Yn dod i rym ar: 22 Hydref 2013 |
||
CLA313 - Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 Y weithdrefn
negyddol; Fe'u gwnaed ar: 27 Medi 2013; Fe'u gosodwyd ar: 1 Hydref 2013; Yn
dod i rym ar: 31 Hydref 2013 |
||
CLA314 - Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi-ar-y-Ffordd) (Cymru) (Diwygio) 2013 Y weithdrefn
negyddol; Fe'u gwnaed ar: 30 Medi 2013;
Fe'u gosodwyd ar: 1 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 25 Hydref 2013 |
||
CLA315 - Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) (Cymru) (Diwygio) 2013 Y weithdrefn
negyddol: Fe’u gosodwyd ar: 30 Medi
2013; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 25 Hydref 2013 |
||
CLA312 - Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 Y
weithdrefn gadarnhaol; Yn dod i rym ar:
30 Ebrill 2014 |
||
Trafod y Bil Dadreoleiddio Drafft (Bil drafft y DU) CLA(4)-23-13 (p2) – Papur
Briffio Cyfreithiol CLA(4)-23-13 (p3) – Papur
Briffio Ymchwil http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/joint-select/draft-deregulation-bill/ Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papurau
ynghylch Bil Dadreoleiddio Drafft y DU a chytunodd i ysgrifennu i'r Cyd-bwyllgor
a sefydlwyd i graffu ar y Bil yn Senedd y Du. |
||
Papurau i’w nodi
CLA(4)23-13(p5) – Llythyr gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: (vi) lle mae’r
pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n
bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal
gweddill y cyfarfod yn breifat. |
||
Trafod yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU CLA(4)-23-13(p6) - Llythyr oddi wrth Brif Weinidog Cymru |
||
Trafod yr Adroddiad Drafft ar yr Adolygiad o'r Ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU Hydref 2013 CLA(4)-23-13 (p7) – Trafod yr Adroddiad Drafft ar yr Adolygiad i'r Ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU Hydref 2013 |