Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd
Eluned Parrott AC Simon Thomas AC i fod yn Gadeirydd dros dro. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC hefyd. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-24-13(p1) - Gwybodaeth gefndir am Offerynnau
Statudol ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon
arnynt. |
|
CLA316 Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2013;
Fe'u gosodwyd ar: 2 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 25 Hydref 2013 |
|
CLA317 Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2013;
Fe'u gosodwyd ar: 4 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2014. |
|
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
CLA319 Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 7 Hydref 2013;
Fe'u gosodwyd ar: 9 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2013 CLA(4)-24-13(p2) - Rheoliadau CLA(4)-24-13(p3) - Memorandwm Esboniadol CLA(4)-24-13(p4) – Adroddiad Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chyflwynwyd adroddiad
i’r Cynulliad. |
|
Trafodaeth ynghylch y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion CLA(4)-24-13(p5) – Adroddiad ar y Cod Apelau Derbyn
i Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon y’i gwnaed
yn unol â’r pwerau a’r gweithdrefnau cywir. |
|
Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd; Julia Hill - Gwasanaethau Cyfreithiol, y Tîm
Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru; Fiona Leadbitter – Swyddog Polisi, y Tîm Polisi Ceffylau,
Llywodraeth Cymru http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7815 Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog cyn y Ddadl yng Nghyfnod
1. |
|
Papurau i’w nodi CLA(4)-24-13(p6) – Llythyr gan Gwenda Thomas AC, y
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol CLA(4)-24-13(p6A) – Atodiad i gyd-fynd â'r llythyr
gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: (vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau
neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael
tystiolaeth gan unrhyw berson. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn
breifat. |