Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

2.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad i rôl Cymru ym mhroses yr UE o wneud penderfyniadau

(Amser dangosol:  13:30–14:30)

 

·         Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog

·         Dr Robert Parry, Pennaeth Materion Ewropeaidd.

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog a Dr Robert Parry, Pennaeth Materion Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru

 

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-29-13:  Papur 1 - Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

 

Dogfennau ategol:

3.1

CLA331 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013

Y weithdrefn negyddol:  Fe’u gwnaed ar: 13 Tachwedd 2013;  Fe'u gosodwyd ar: 4 Tachwedd 2013;  Yn dod i rym ar: 5 Rhagfyr 2013

 

 

 

 

3.2

CLA332 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2013

Y weithdrefn negyddol:  Fe’i gwnaed ar: 18 Tachwedd 2013;  Fe'i gosodwyd ar:  20 Rhagfyr 2013;  Yn dod i rym ar: 13 Rhagfyr 2013

 

 

 

 

 

 

3.3

CLA333 - Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013

Y weithdrefn negyddol:  Fe’i gwnaed ar: 13 Tachwedd 2013;  Fe'i gosodwyd ar:  21 Tachwedd 2013;  Yn dod i rym ar: 12 Rhagfyr 2013

 

 

 

 

 

Cofnodion:

 

Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon â hwy.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

 

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.