Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a Julie James ar gyfer y cyfarfod cyfan a gan William Powell a David Rees ar gyfer y sesiwn prynhawn. Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Keith Davies a Mark Drakeford yn dirprwyo ar ran David Rees. |
||
(09.30 - 10.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Dirprwy
Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd a’i swyddogion yn ateb cwestiynau
gan aelodau o’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu dadansoddiad o’r cam gorfodi mewn perthynas â’r gyfran o’r gyllideb a gaiff ei gwario ar erlyn. |
|
(10.30 - 11.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’i swyddogion yn ateb cwestiynau
gan aelodau o’r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r ffigur ‘llyfr gwyrdd’ ar gyfer materion systemau technoleg gwybodaeth y bydd yr un corff amgylcheddol newydd yn eu hetifeddu. |
|
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5. |
|
(11.30 - 12.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a pha faterion yr oedd am ddwyn i sylw’r Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad. 5.2 Cafodd y Pwyllgor egwyl rhwng 12.00 ac 13.00. |
|
(13.00 - 15.00) |
Ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru - Tystiolaeth lafar gan Cyswllt Amgylchedd Cymru E&S(4)-25-12
papur 3 – Cyswllt Amgylchedd Cymru E&S(4)-25-12
papur 4 – RSBP Cymru E&S(4)-25-12
papur 5 – Ymddiriedolaethau Natur Cymru E&S(4)-25-12
papur 6 – WWF Cymru E&S(4)-25-12
papur 7 – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol Gareth Cunningham, RSPB Cymru Beth Henshall, Ymddiriedolaethau
Natur Cymru Dan Crook, WWF Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i’r goblygiadau i Gymru yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. 6.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar y polisi morol yng Nghymru. 6.3 Cytunodd Dan Crook i rannu gyda’r Pwyllgor yr adroddiad ar yr astudiaeth a gomisiwynwyd gan y WWF ar gyd-leoli parthau cadwraeth morol datblygiadau ynni adnewyddadwy. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref. |
|
Trawsgrifiad |