Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Gwyn Price a Julie James yn sgil ei phenodiad yn Ddirprwy Weinidog. Roedd Jeff
Cuthbert a Jenny Rathbone yn bresennol fel dirprwyon. |
||
(09:15 - 10:00) |
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol E&S(4)-20-14
papur 1 Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Matthew Quinn, y Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Prys Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Ynni, Dŵr
a Llifogydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2
Cytunodd y Gweinidog i: ·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor i ddarparu nodyn cynhwysfawr ar yr agenda polisi bioamrywiaeth. ·
Ystyried
cyhoeddi adroddiad yr archwiliad a wnaed i gamau gweithredu bioamrywiaeth a
gynhaliwyd gan adrannau’r Llywodraeth. ·
Ystyried
darparu dangosyddion perfformiad allweddol/data gwaelodlin a ddefnyddir i fesur
canlyniadau’r Cynllun Adfer Natur. ·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor gyda gwybodaeth am y pwyntiau a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor
ynghylch nwy siâl / ffracio. ·
Ystyried
gwneud datganiad wedi’i ddiweddaru ar safbwynt y Llywodraeth ar nwy siâl /
ffracio. ·
Darparu’r
siart llif i’r Pwyllgor a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ymwneud â’r prosesau
cynllunio mewn cysylltiad â ffracio. ·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor gyda’r diweddaraf am raglen Ynni’r Fro, gyda’r ffigurau sydd ar
gael. ·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor i roi eglurhad ar eithriad y Goron yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol
Cymru. ·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor yn rhoi manylion am y dyddiad y cyhoeddir y Strategaeth
Ddŵr, a darparu nodyn ar gynnydd y pum argymhelliad a dderbyniwyd mewn
egwyddor. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 Cofnodion: 3.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10:10 - 11:45) |
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Paratoi ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Cofnodion: 5.1
Cynhaliodd y Pwyllgor seminar wrth baratoi i ystyried Bil Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). |
|
(11:45 - 12:30) |
Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd E&S(4)-20-14
papur 3 Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Andrew Slade, Cyfarwyddwr,
Amaeth, Bwyd a'r Môr Christianne Glossop, Y
Prif Swyddog Milfeddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1
Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 6.2
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu adroddiad Cymorth TB gyda’r Pwyllgor. 6.3
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro safbwynt y
Llywodraeth ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mewn perthynas â’r gofynion
Gwyrddu newydd. 6.4
Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y
sector cynnyrch llaeth. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Cynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar rwydi drifft: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd i lythyr gan y Cadeirydd ar 24 Mehefin E&S(4)-20-14
papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
Ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru: Gwybodaeth bellach gan WRAP Cymru E&S(4)-20-14
papur 5 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2 Nododd
y Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Seilwaith: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i lythyr gan y Cadeirydd ar 21 Gorffennaf E&S(4)-20-14
papur 6 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
Polisi dŵr yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon at y cadeirydd E&S(4)-20-14
papur 7 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.4 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r adroddiad a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf. E&S(4)-20-14
papur 8 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.5 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru: Rhagor o wybodaeth gan Gyngor ar Bopeth Cymru E&S(4)-20-14
papur 9 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.6 Nododd
y Pwyllgor y papur. |
||
Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir: Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 16 Mehefin E&S(4)-20-14
papur 10 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.7 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |