Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(10.15)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 3

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3.

(10.15 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol - Sesiwn friffio breifat gyda chynghorwyr arbenigol

Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Robert Lee, Prifysgol Caerdydd

Cofnodion:

3.1 Cafodd Aelodau’r Pwyllgor eu briffio gan yr Athro Robert Lee a’r Athro Terry Marsden ar yr achos busnes dros gael un corff amgylcheddol i Gymru.

(11.00 - 11.45)

4.

Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol - Tystiolaeth gan sefydliadau ffermio a chefn gwlad

Bernard Llewellyn, Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru

Dafydd Jarrett, Cyngorydd Polisi Ffermydd NFU Cymru

Rhian A Nowell-Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol, Undeb Amaethwyr Cymru

Ben Underwood, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar yr achos busnes dros gael un corff amgylcheddol i Gymru.

Trawsgrifiad