Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Huws Gruffydd. Nid oedd dirprwyon.

(09.45 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-06-12 papur 1

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy  

Dave Clarke, Cynghorwr Technegol, Dyfodol Cynaliadwy

Nigel Reader, Ymgynghorydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’i swyddogion gwestiynau gan Aelodau’r Cynulliad am yr achos busnes dros un corff amgylcheddol.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i geisio ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

(10.45)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr

E&S(4)-03-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ei raglen waith, er mwyn ystyried y mater ymhellach. 

3a

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor)

E&S(4)-06-12 papur 2

Dogfennau ategol:

3b

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Blanhigfeydd Maelor Cyf

E&S(4)-06-12 papur 3

Dogfennau ategol:

3c

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru

E&S(4)-06-12 papur 4

Dogfennau ategol:

(10.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5.

5.

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o’r ymchwiliad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol.

Trawsgrifiad