Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwyn Price.  Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

 

(09:30 - 10:30)

2.

Trafodaeth ynghylch bioamrywiaeth - partneriaid Sefyllfa Byd Natur

 

Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr, RSPB Cymru

James Byrne, Rheolwr Eiriolaeth Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Steve Lucas, Swyddog Cymru, Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod

 

 

Cofnodion:

2.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Ms Luxton i ddarparu manylion am ba ddau o'r argymhellion, a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd blaenorol ar fioamrywiaeth yn 2011, a oedd wedi'u cwblhau.

 

2.3 Cytunodd James Byrne i ddarparu papur ar yr effaith ar balod yn Sir Benfro.

 

(10:40 - 11:40)

3.

Trafodaeth ynghylch bioamrywiaeth - Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol

 

Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol - yr Adran Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru

Julia Korn, Ymgynghorydd Ecosystemau a Bioamrywiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru

Catrin Evans, Uned Fioamrywiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Rebecca Sharp, Uned Fioamrywiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Leanne Bird, Swyddog Bioamrywiaeth, Cyngor Sir Ceredigion

 

 

Cofnodion:

3.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Julia Korn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ganolfan data Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

 

5.

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd – Rheoli Tir yn Gynaliadwy : Camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod ar 1 Mai

E&S(4)-13-14 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.