Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan gwmnïau ynni - Ystyried ynni adnewyddadwy

E&S(4)-08-11 papur 1 – SWALEC / SSE

E&S(4)-08-11 papur 2 - RWE npower ac npower renewables

E&S(4)-08-11 papur 3 – Scottish Power

 

Sam Peacock, Pennaeth Materion Cyhoeddus, SSE

Simon Wells, Pennaeth Cyfraith Cynllunio ac Amgylcheddol, RWE npower

Wayne Cranstone, Cyfarwyddwr Datblygiad a Prosiectau, npower renewables

Janice McLaughlin, Cyfarwyddwr Prosiect – Cymru a Lloegr, Scottish Power Renewables

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Mr Peacock i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am orsaf pŵer Abernedd ym Maglan, ynghyd â manylion am safleoedd yng Nghymru ar gyfer datblygu ynni’r môr ac ynni’r llanw.

 

2.3 Cytunodd Ms McLaughlin i roi manylion am y modelau gwahanol ar gyfer manteision cymunedol y mae Scottish Power yn eu cynnig.

 

2.4 Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i fersiwn ddrafft o’r cynlluniau ar gyfer rheoli trafnidiaeth gael ei rhannu â’r pwyllgor pan fydd ar gael.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan gwmnïau ynni a'r Grid Cenedlaethol - Ystyried materion yn ymwneud â rhwydwaith a'r grid

E&S(4)-08-11 papur 2 - RWE npower ac npower renewables

E&S(4)-08-11 papur 3 – Scottish Power

E&S(4)-08-11 papur 4 – Y Grid Cenedlaethol

 

Simon Wells, Pennaeth Cyfraith Cynllunio ac Amgylcheddol, RWE npower

Wayne Cranstone, Cyfarwyddwr Datblygiad a Prosiectau, npower renewables

Colin Taylor, Pennaeth Dynlunio, Rhwydweithiau Ynni Scottish Power

Steve Knight-Gregson, Arbennigwr Pennaf dros Brosiectau Fawr, Y Grid Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd Mr Gregson i ddarparu nodyn ynghylch gallu’r grid yn ne Cymru i ymdopi â’r pŵer a gynhyrchir yn awr ac a fydd yn cael ei gynhyrchu yn y dyfodol, ac ynghylch nifer y cyrff cydsynio ar gyfer datblygiadau yng Nghymru.

 

4.

Papurau i'w nodi

E&S(4)-08-11 papur 5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynghylch ceisiadau am brosiectau ynni dros 50MW ac o dan 50MW

 

E&S(4)-08-11 papur 6

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynghylch camau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf

 

E&S(4)-08-11 papur 7

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynghylch camau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Hydref ynghylch cyllideb ddrafft 2012-13

 

E&S(4)-08-11 papur 8

Blaenraglen waith y Pwyllgorhydref 2011

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad