Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson
029 2089 8639
Eitemau
| Nodyn |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid
oedd dirprwy.
|
2. |
Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
E&S(4)-21-12 papur 1: Llywodraeth
Cymru
John Griffiths AC,
Gweinidog yr Amgylchedd a
Datblygu Cynaliadwy
Nicola Edwards,
Pennaeth y Tîm Rheoli
Perygl Llifogydd ac Erydu
Arfordirol
Prys Davies, Dirprwy
Cyfarwyddwr - Is-adran Ynni,
Dŵr a
Llifogydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy’n ateb cwestiynau gan aelodau’r
Pwyllgor.
2.2 Yn unol â cheisiadau a wnaed gan
aelodau’r Pwyllgor, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r
wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
·
Tabl sy’n cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer y
dyraniadau ariannol a wneir ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd
ac erydu arfordirol o gyllideb yr Adran, o gyllideb graidd y
Llywodraeth ganolog ac o raglenni Ewropeaidd.
·
Gwybodaeth am y gwaith a wneir ar y cyd gyda’r Adran
Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar y Bartneriaeth
Môr Glas, mewn perthynas â diogelu’r arfordir a
thwristiaeth.
|
3. |
Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Dŵr: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i
gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ffaith nad oes ganddo
wrthwynebiad i ddefnyddio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol
hwn, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.
|
4. |
Papurau i'w nodi
Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21
Mehefin, 27 Mehefin a 5 Gorffennaf.
Dogfennau ategol:
|
4a |
Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Papur gan Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
E&S(4)-21-12 paper 3 – Welsh
Government
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
|
5. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6
Cofnodion:
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r
cyfarfod.
|
6. |
Trafodaeth ar y flaenraglen waith - Tymor yr Hydref 2012
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith
ar gyfer tymor yr Hydref 2012.
|
7. |
Polisi Amaethyddol Cyffredin - llythyr drafft
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar y
Polisi Amaethyddol Cyffredin.
|
|
Trawsgrifiad
|