Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Deddfwriaeth: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Alun Ffred Jones a Kirsty Williams a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas a Peter Black yn y drefn honno, oherwydd eu swyddogaethau ar Gomisiwn y Cynulliad. 1.2 Estynnod y Cadeirydd groeso hefyd i Mark Drakeford a oedd yn dirprwyo ar ran Mike Hedges. 1.3 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rhodri Glyn Thomas a oedd yn bresennol i gymryd rhan yn nhrafodion Cyfnod 2 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn ei rôl fel Comisiynydd y Cynulliad a’r Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(09:30 - 11:30) |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) - Cyfnod 2: Ystyried Gwelliannau Papurau: Rhestr o welliannau wedi’u didoli, 21 Mehefin 2012 Grwpio Gwelliannau, 21 Mehefin 2012 Yn unol â Rheol Sefydlog
26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu â gwelliannau
i’r Bil yn
y drefn a ganlyn: Adrannau 1 – 3
Dogfennau ategol: Rhestr o welliannau wedi’u didoli, 21 Mehefin 2012 Grwpio Gwelliannau, 21 Mehefin 2012 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau yn y drefn a ganlyn: Adran 1 – 3. 2.2 Gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn: Adran 1: Ni chafodd Gwelliant 1A (Suzy Davies) ei gynnig. Derbyniwyd Gwelliannau 1, 2 a 3 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i). Adran 2: Cafodd Gwelliant 11 (Bethan Jenkins) ei dynnu yn ôl, yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i). Gwelliant 13 (Suzy Davies):
Gwelliant 16 (Aled
Roberts):
Gwelliant 17 (Aled
Roberts):
Ni chafodd Gwelliant 18 (Aled Roberts) ei gynnig. Gwelliant 19 (Aled
Roberts):
Ni chafodd Gwelliannau 20 a 21 (Aled Roberts) eu cynnig. Ni chafodd Gwelliant 4A (Bethan Jenkins) ei gynnig. Derbyniwyd Gwelliant 4 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i). Ni chafodd Gwelliant 12 (Bethan Jenkins) ei gynnig. Derbyniwyd Gwelliant 5 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i). Cafodd Gwelliant 14 (Suzy Davies), ei dynnu yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i). Derbyniwyd Gwelliannau 6 a 7 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i). Cafodd Gwelliant 15 (Suzy Davies) ei dynnu yn ôl, yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i). Adran 3: Ni chafodd unrhyw welliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly penderfynwyd ei derbyn. 2.3 Barnwyd bod y Bil, fel y’i diwygiwyd, wedi’i dderbyn. 2.4 Gwnaeth y Pwyllgor gais i’r Comisiynydd baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, yn unol â Rheol Sefydlog 26.27. 2.5 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai trafodion Cyfnod 3 yn dechrau ddydd Gwener 22 Mehefin 2012. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(11:30 - 11:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: eitem 4 Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(11:35 - 11:50) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol: cytuno ar yr adroddiad Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad, a’i dderbyn. Dywedodd y Cadeirydd y bydd yr adroddiad yn cael ei osod gerbron y Cynulliad erbyn dydd Llun 25 Mehefin 2012. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Papur 1 - Cyflwyniad gan BBC Cymru i'r ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru Dogfennau ategol: |