Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

2.1 Cafodd David Rees ei ethol yn Gadeirydd dros dro.

 

 

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething a Ken Skates ar ôl iddynt gael eu penodi yn Ddirprwy Weinidgoion i Lywodraeth Cymru a gan Elin Jones a Darren Millar.  Roedd Leighton Andrews a David Rees yn dirprwyo.

 

3.2 Datganodd Leighton Andrews, at ddiben eitem 4b, ei fod yn athro anrhydeddus yn Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd. 

 

 

(09:30 - 12:45)

4.

Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - tystiolaeth ar lafar

(09:30 - 10:10)

4a

Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

HSC(4)-23-13 papur 1 : Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

HSC(4)-23-13 papur 2 : Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

HSC(4)-23-13 papur 3 : Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

HSC(4)-23-13 papur 4 : Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

 

Dr Sara Hayes, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dr Ian Millington, Ysgrifennydd Meddygol, Pwyllgor Meddygol Lleol Abertawe Bro Morgannwg

Andrew Jones, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi

Dr Gillian Richardson, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

John Burge, Prif Swyddog Llywodraethu Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

 

(10:10 - 10:40)

4b

Tystiolaeth ar rôl y cyfryngau

HSC(4)-24-13 papur 5

 

          Dr Andy Williams, Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Bu Dr Andy Williams yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

4.3 Cytunodd Dr Williams i ddarparu copi o'r canllawiau i newyddiadurwyr a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Cyfryngau Gwyddoniaeth.

 

(10:45 - 11:25

4c

Tystiolaeth gan Sense ac UCL Institute of Child Health

HSC(4)-24-13 papur 6 : Sense

 

Nick Morris, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru), Sense

Joff McGill, Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Cyngor ac Ymchwil a'r arweinydd o ran imiwneiddio a rwbela, Sense

 

HSC(4)-23-13 papur 7 : UCL Institute of Child Health

 

          Dr Helen Bedford, Uwch-ddarlithydd Iechyd Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

 

(11:25 - 12:05)

4d

Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

HSC(4)-24-13 papur 8

 

Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd

Dr Brendan Mason, Epidemiolegydd Rhanbarthol

Dr Richard Roberts, Pennaeth, Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy

Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

4.6 Cytunodd Dr Sandifer i roi manylion am nifer y brechiadau MMR a roddwyd yn ardal Abertawe yn ystod yr ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i gael y brechiad yn 2005-6.

 

 

(12:05 - 12:45)

4e

Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

HSC(4)-24-13 papur 9

 

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

          Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Andrew Riley, Uwch-swyddog Meddygol  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7 Bu'r Gweinidog a Dr Hussey yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

4.8 Cytunodd dr Hussey i roi eglurhad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu tystiolaeth ysgrifenedig am yr ymgyrch dal i fyny genedlaethol yn 2005. Cytunodd Dr Hussey gadarnhau, hefyd, a oedd y llythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i fyrddau iechyd yn 2009 yn eu hannog i gydymffurfio â Chylchlythyr Iechyd Cymru 2005 yn un generig neu'n un a oedd yn canolbwyntio ar ardal ddaearyddol benodol.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6, 12, 20 a 26 Mehefin a 1 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

5.2 Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol ei fod wedi cytuno ar ei adroddiad Cygnod 1 ar gyfer y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac y bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn 19 Gorffennaf,

 

 

5a

Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan BMA Cymru

HSC(4)-24-13 papur 10

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5b

Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

HSC(4)-24-13 papur 11

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4 Nododd y Pwyllgor y papur.