Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas AC; nid oedd dirprwy.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 3

(10.55 - 12.00)

3.

Sesiwn briffio technegol am y Papur Gwyn ar deithio llesol

Cofnodion:

3.1 Cafodd aelodau’r Pwyllgor eu briffio gan swyddogion y Llywodraeth ynghylch y Papur Gwyn ar deithio llesol.

(12.00 - 12.45)

4.

Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ynghylch mentrau cymdeithasol

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Karyn Pittick, Pennaeth yr Uned Mentrau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru


Duncan Hamer, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Gweithrediadau’r Sector, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Karyn Pittick, Pennaeth yr Uned Mentrau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; a Duncan Hamer, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Gweithrediadau’r Sector, Llywodraeth Cymru, i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog a’i swyddogion am fentrau cymdeithasol.

 

Cam i’w gymryd:

 

Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Buddsoddi Cymunedol, a sut y mae’r gronfa’n gweithio ar hyn o bryd;

 

·         y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, unwaith y caiff ei sefydlu gan y Comisiwn.

 

 

 

 

Trawsgrifiad