Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09:00-10:00)

2.

Bil Tai (Cymru)

Bil Tai (Cymru), (fel y'i cyflwynwyd)

 

Memorandwm Esboniadol

 

Briff Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil Tai (Cymru).

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i anfon nodyn at y Pwyllgor ynglŷn â rhannu gwybodaeth am fudd-dal Tai ac i roi rhybudd ymlaen llaw ir Pwyllgor am unrhyw welliannau posibl yng Nghyfnodau 2 a 3 a fydd yn ceisio newid unrhyw agweddau ariannol ar y Bil.

 

(10:00-11:00)

3.

Ymchwiliad Cyllid Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Adolygiad o’r Cyllid Syd ar Gael  i Fusnesau – Adroddiad Cam 2 (Tachwedd 2013) (Saesneg yn unig)

 

Adolygiad o’r Cyllid Syd ar Gael  i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2 Crynodeb gweithredol (Tachwedd 2013)

 

Yr Athro Dylan Jones-Evans - Athro Entrepreneuriaeth a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Jones-Evans am ymchwiliad Cyllid Cymru.

 

(11:00)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

 

4a

Cyllido Addysg Uwch: Llythyr gan yr Athro Julie Williams

Dogfennau ategol:

(11:05)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6 a 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:10 - 12:10)

6.

Bil drafft Cymru: Sesiwn friffio

Briff Gwasanaeth Ymchwil

 

Briff cyfreithiol

 

Alan Trench - Athro Gwleidyddiaeth, Prifysgol Ulster

 

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Alan Trench, Athro Gwleidyddiaeth, Prifysgol Ulster ar Fil drafft Cymru.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor ar destun llythyr i’r Cadeirydd ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

(12:10-12:30)

7.

Bil Tai (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil Tai (Cymru) a chytunwyd i ystrifennu at y Gweinidog yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn ystod ei sesiwn dystiolaeth.