2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy
Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd,
i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Dirprwy
Weinidog.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Manylion
am yr hyfforddiant a gafodd staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
ar roi cyngor i noddwyr prosiectau ynghylch y broses
gaffael.
·
Nodyn
i’r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd
yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â’r Comisiwn
Ewropeaidd ynghylch mynd i’r afael â materion
cyfreithiol a thechnegol sy’n berthnasol i ffynhonnell
gyllido JESSICA, sef y rhaglen Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer
Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig.
·
Rhagor o
fanylion am y trafodaethau sydd i ddod gyda’r Pwyllgor
Monitro Rhaglenni ar yr effaith y gallai’r gyfradd gyfnewid
ei chael ar brosiectau ac ar sut y gellir rheoli risgiau posibl.