Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00 - 14.05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(14.05 - 15.05) |
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan PAC(4) 25-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu
Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan. Yn benodol, bu'r Aelodau'n holi'r tystion
ynghylch: ·
Y
fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru ·
Lefelau
staffio a hyfforddiant ar gyfer staff ·
Y
ddarpariaeth o wasanaethau newyddenedigol ·
Cyfraddau
toriadau Cesaraidd ·
Adolygiad
o'r rhaglen bwydo ar y fron yng Nghymru Cam Gweithredu: 2.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru
a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan i ddarparu: ·
Rhagor o
wybodaeth am sut y mesurir a yw rhieni yn hyderus a gwybodus, ar ôl
trafodaethau priodol; ·
Data
sy'n amlinellu nifer yr ymarferwyr y mae angen iddynt ddefnyddio dull hyfforddi
Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr; ·
Rhagor o
wybodaeth am recriwtio neonatolegyddion yng Nghymru gan gynnwys manylion am y
camau a gymerir i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y neonatolegyddion; ·
Linc i
waith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y berthynas rhwng cyfraddau BMI,
beichiogrwydd a thoriadau Cesaraidd; ·
Rhagor o
wybodaeth am nifer y staff asiantaeth a ddefnyddir ym maes bydwreigiaeth; ·
Amserlen
ar gyfer cyflwyno offer electronig i fonitro cyflymder calon y ffetws ar gyfer
gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol; ·
Rhagor o
wybodaeth am y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol o ran gweithredu'r
pecyn cymorth ar doriadau Cesaraidd.
|
|
(15.15 - 16.15) |
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Kath McGrath, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg. Yn benodol,
bu'r Aelodau'n holi'r tystion ynghylch: ·
Y
fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru; ·
Lefelau
staffio a hyfforddiant ar gyfer staff; ·
Y
ddarpariaeth o wasanaethau gofal newyddenedigol; ·
Bwydo ar
y fron; a ·
Cyfraddau
toriadau Cesaraidd Cam Gweithredu: Cytunodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf
i ddarparu: ·
Eglurhad
am y gyfradd bresennol ar gyfer pryd y mae menywod yn dod i gysylltiad am y tro
cyntaf â swyddog meddygol proffesiynol (boed yn feddyg teulu neu'n fydwraig)
cyn eu degfed wythnos o feichiogrwydd. ·
Gwybodaeth
am y broses o werthuso'r arbrawf ar gyd-leoli unedau esgor risg isel ac uchel. ·
Gwybodaeth
am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis. Cytunodd Bwrdd Iechyd Abertawe
Bro Morgannwg i ddarparu: ·
Gwybodaeth
am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis. ·
Gwybodaeth
am ei sefyllfa o ran darparu'r lefelau staffio a argymhellir ar gyfer staff
meddygol a nyrsys, a chyrraedd y gymhareb 90:10 o staff cymwysedig ac
anghymwys. ·
Gwybodaeth
am ddatblygu grwpiau cymorth i gymheiriaid. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor: ·
Gofnodion
y cyfarfod blaenorol; a ·
Gohebiaeth
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am faterion sy'n codi o lythyr y Gweinidog
Cyllid ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Papur 2). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 a 7. Cofnodion: Eitem 7: |
||
(16.15 - 16.30) |
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Aelodau yn trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y
prif faterion a themâu sy'n codi o'r dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i
gyflwyno adroddiad ar ei ymchwiliad byr i Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru. |