Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar.

 

1.3        Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd.

(14:05 - 15:30)

2.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa'r Cabinet

PAC(4) 05-12 – Papur 1

June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

Alyson Francis, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

Wyn Price, Pennaeth Argyfyngau, Llywodraeth Cymru

Christina Scott, Cyfarwyddwr yr Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl, Swyddfa’r Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; Alyson Francis, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru; Wyn Price, Pennaeth y Gangen Argyfyngau, Llywodraeth Cymru; a Christina Scott, Cyfarwyddwr, Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl, Swyddfa’r Cabinet.

 

2.2 Holodd yr Aelodau’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Cabinet i ddarparu:

 

·         Nodyn yn amlinellu manylion ad-daliadau ariannol a wnaed i awdurdodau lleol i dalu costau yn sgil argyfyngau mawr, gan gynnwys ad-daliadau a wnaed i Gyngor Abertawe yn dilyn y tân teiars yn Fforest-fach.

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch a oes rheolau penodedig yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl sy’n rhwystro ymatebwyr categori dau neu asiantaethau gwirfoddol rhag cadeirio gweithgorau.

(15:30 - 16:30)

3.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth ynghylch y safbwynt lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

PAC(4) 05-13 – Papur 2

Simon Wilkinson, Swyddog Polisi Gwasanaethau Rheoliadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gavin Macho, Rheolwr Cynllunio at Argyfwng, Cyngor Sir Caerdydd

 

Fforwm Lleol Cymru Gydnerth

PAC(4) 05-13 – Papur 3

Anne Evans, Cydgysylltydd Cydnerthedd Lleol, Ysgrifenyddiaeth Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd

 

Y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys

PAC(4) 05-13 – Papur 4

Yr Uwcharolygydd Claire Parmenter, Cydgysylltydd Argyfyngau Sifil Posibl Gwasanaethau Brys Cymru, y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Simon Wilkinson, Swyddog Polisi Gwasanaethau Rheoleiddio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Gavin Macho, Rheolwr Cynllunio ar gyfer Argyfyngau, Cyngor  Caerdydd; Anne Evans, Cydgysylltydd Cydnerth Lleol, Fforwm Lleol  Gydnerth Gogledd Cymru

Ysgrifenyddiaeth; a’r Uwcharolygydd Claire Parmenter, Cydgysylltydd Gwasanaethau Brys Argyfyngau Sifil Cymru, Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys.

 

3.2 Holodd yr Aelodau’r tystion.

 

 

 

(16:30 - 17:00)

4.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth gan y sector gwirfoddol

St John Cymru

PAC(4) 05-13 – Papur 5

James Shaughnessy, St John Cymru

Rhodri Jones, Cynghorydd Gweithrediadau, St John Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Jones, Cynghorydd Gweithrediadau, St John Cymru , a James Shaughnessy, Cyfarwyddwyr Gweithrediadau, St John Cymru.

 

4.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau gofnodion y cyfarfod diwethaf.

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 7.

(17:00 - 17:30)

7.

Trafod y dystiolaeth ar Argyfyngau Sifil yng Nghymru

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ar argyfyngau sifil yng Nghymru a rhoddodd gyfarwyddyd i’r Clerc baratoi adroddiad drafft ar sail y drafodaeth.

 

7.2 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith a’i amserlen hefyd a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd ynghylch ei amserlen.

Trawsgrifiad