Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. |
||
(09:00-10:00) |
Gofal heb ei drefnu: Ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 1 PAC(4)-32-13
papur 2 David
Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru Kevin Flynn
- Cyfarwyddwr Cyflawni a Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru Dr Grant
Robinson - Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei drefnu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Holodd y
Pwyllgor David Sissling, y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Ruth Hussey, y Prif
Swyddog Meddygol, a'r Dr Grant Robinson, yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal
heb ei Drefnu, Llywodraeth Cymru, ynghylch Gofal heb ei drefnu. Camau
gweithredu: Cytunodd
David Sissling i: ·
Rannu'r rhestr wirio a ddefnyddir wrth archwilio gofal
sylfaenol ·
Ymchwilio ymhellach i'r ganran o feddygfeydd sy'n cynnig
apwyntiadau ar ôl 17.00,a pha mor aml y digwydd hynny. ·
Gwirio'r diffiniad o 'heb ddod i'r apwyntiad' ·
Anfon nodyn am yr amserlen ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth 111,
a darparu gwybodaeth ddiweddar am y gwasanaeth yn rheolaidd. ·
Anfon nodyn am ffigurau'r Ddeoniaeth ar gyfer hyfforddi
meddygon teulu. |
|
(10:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (14 Tachwedd 2013) PAC(4)-32-13
(ptn1) Dogfennau ategol: |
||
(10:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5,
6, 7, 8, 9, 10 a 11 Cofnodion: 9.1
Derbyniwyd y cynnig bod eitemau 4, 5, 6, 7 ac 8 ar yr agenda yn cael eu trafod
yn breifat, ynghyd â'r papur ar gyfer eitem 10. |
|
(10:00-10:10) |
Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 3 PAC(4)-32-13
papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nodwyd yr
ymatebion, a dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor bod Swyddfa
Archwilio Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar y mater hwn. Bydd y
Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd canlyniadau'r gwaith hwnnw ar
gael. |
|
(10:10-10:20) |
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 5 PAC(4)-32-13
papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
|
(10:20-10:25) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 7 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y
Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i wahodd yr Athro
White i'r Pwyllgor i drafod eu pryderon. |
|
(10:25-10:30) |
Argyfyngau Sifil yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 8 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Roedd y
Pwyllgor yn fodlon â'r ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10:30-10:35) |
Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-32-13
papur 9 Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Nododd y
Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. |
|
(10:35-11:00) |
Cyflog Uwch-reolwyr: Trafod y papur dadansoddi PAC(4)-32-13
papur 10 Cofnodion: 10.1 Nododd y
Pwyllgor y memorandwm drafft gan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod angen gwneud
rhagor o waith ar y papur cyn y caiff ei gyhoeddi. 10.2
Trafododd y Pwyllgor sut yr oedd yn bwriadu gweithio ar yr ymchwiliad hwn. |