Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
| Nodyn | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 3, 4, 5 a 7. Cofnodion: Eitemau 3,4, 5 a 7. |
||
(9:05 - 9:30) |
Ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl a’i ddull o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan. |
|
(9:30 - 9:35) |
Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru' Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd ar y newidiadau hynny.
|
|
(9:35 - 10:00) |
Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru' Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad i’r ymchwiliad, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’, a fyddai’n cael ei ystyried ymhellach dros e-bost, a chytunodd ar yr adroddiad. |
|
(10:00 - 10:30) |
Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd' PAC(4) 16-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd’ Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ynghyd â Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol) i roi briff i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd.’
6.2 Cyflwynodd yr Archwilydd Cyffredinol friff i’r Pwyllgor ar y prif faterion sy’n codi o’i adroddiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:
· Nodyn yn dweud pryd cafodd Byrddau Iechyd Lleol gynnig broceriaeth gan Lywodraeth Cymru.
|
|
(10:30 - 10:45) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd' Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Gyllid Iechyd.
|
|
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 16-12 – Papur 2 – Gohebiaeth gan Drysorlys EM ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru
PAC(4) 16-12 – Papur 3 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru
PAC(4) 16-12 – Papur 4 – National Audit Office report
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar Safon Ansawdd Tai Cymru.
8.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012. |
||
|
Trawsgrifiad |