Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nodwyd cofnodion cyfarfod y
Comisiwn ar 12 Gorffennaf. |
|
Cyllideb y Comisiwn 2022-23 Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, a adlewyrchodd
y strategaeth y cytunwyd arni yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf. Fe wnaethant ystyried blaenoriaethau o ran prosiectau ar gyfer 2022-23 a'u
dull o fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol tebygol ar Gyllideb Ddrafft
2022-23, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant
Gwladol. Cytunodd y Comisiynwyr i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn o £62.942 miliwn,
gan nodi y gallai cyhoeddiadau cyllideb y DU alw am ystyriaethau diweddarach
ynghylch cyllideb atodol. At hynny, nododd y
Comisiwn ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. |
|
Adroddiad Dyfodol Ystwyth Cofnodion: Rhoddodd y Comisiynwyr sylwadau cadarnhaol ar y gwaith a wnaed i gasglu’r
gwersi a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol o brofiad y pandemig fel y gellid
ystyried y gwerth strategol hirdymor o gael y Senedd a’r Comisiwn yn sefydliad
mwy hyblyg, ymatebol a chynaliadwy. Cadarnhawyd bod cynnwys y papur yn cofnodi’r profiad a’i fod yn sail dda ar
gyfer cyfeiriad strategol dyheadau’r Comisiwn ar gyfer y dyfodol. Awgrymodd y Comisiynwyr y dylid trafod ymhellach yr hyn a fyddai’n cael ei
ystyried fel mesur llwyddiant. Nododd y Comisiynwyr y
byddai'n ddefnyddiol i'r Aelodau weld crynodeb, ac y byddai'n creu sail ar
gyfer trafodaeth ddefnyddiol gyda nhw am eu hanghenion wrth i'r anghenion
hynny, i gyflawni eu dyletswyddau yn y Chweched Senedd, ddod yn fwy amlwg dros
y cyfnod sydd i ddod. |
|
Diweddariad ynghylch COVID-19 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth am y diweddariad diweddaraf i’r rheoliadau
COVID-19. Fe wnaethant drafod y wybodaeth sydd ar gael am y niferoedd sy’n
defnyddio profion llif unffordd ar gyfer dod i’r safle. Trafododd y Comisiynwyr y bwriad i atgyfnerthu negeseuon am y mesurau sydd
ar waith i gadw'r ystâd yn ddiogel ac i leihau'r effeithiau ar barhad busnes. Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a rhoddodd sylwadau ar bwysigrwydd pobl yn gwybod am rif adnabod y
Senedd ar gyfer adrodd canlyniadau profion llif unffordd, a bod angen cydnabod
lle mae’r feirws yn parhau i effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. |
|
Diweddariad ynghylch yr agoriad swyddogol Cofnodion: Rhoddwyd amlinelliad i'r Comisiynwyr o'r cynlluniau ar gyfer yr Agoriad
Swyddogol, a fyddai’n cael ei gynnal ar Ystâd y Senedd ym mis Hydref. Fe wnaethant nodi
trefn y rhaglen a chytunwyd ar ddull o ymdrin ag agweddau ar liniaru risg, yn
ymwneud â'r sefyllfa COVID barhaus, yn benodol o ran defnyddio profion llif
unffordd a masgiau wyneb, heblaw am y rhai y mae angen iddynt siarad fel rhan
o'r agoriad. |
|
Rhwydwaith Gwresogi Ardal Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr Gynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, yr oedd gan y
Comisiwn y dewis i ymuno ag ef fel y prif “gleient allweddol”. Byddai’r cynllun yn cefnogi cyflenwi Strategaeth Carbon Niwtral y Comisiwn.
Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud ag anghenion yr ystâd, ffynhonnell
yr ynni a pherfformiad thermol y Senedd a Thŷ Hywel. Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai’r Comisiwn yn ymuno â Chynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, ar yr amod bod
y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cytuno ar unrhyw newidiadau terfynol i
ddrafftio’r contract arfaethedig. |
|
Rôl y Prif Gynghorydd Cyfreithiol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr wybodaeth a ddarparwyd am y camau nesaf yn y cynllun i
recriwtio aelod rhan-amser parhaol o staff y Comisiwn fel Prif Gynghorydd
Cyfreithiol. Gwnaed hyn yn unol â’r ddirprwyaeth i’r Prif Weithredwr a’r Clerc. Nododd y Comisiynwyr y
bwriad i barhau at y broses recriwtio a chytunodd i gefnogi estyniad tymor byr
pellach i'r trefniadau dros dro presennol am hyd at dri mis (os oes angen). |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - gwariant gyda chyflenwyr o Gymru Cofnodion: Nododd y Comisiwn
wybodaeth sy’n cael ei darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn ymateb i
gais bod y Comisiwn yn ysgrifennu, erbyn mis Medi 2021, i nodi pa ymgysylltiad
y mae wedi'i wneud â chyrff cyhoeddus eraill, a'r camau y mae'n bwriadu eu
cymryd i wella gwariant gyda chyflenwyr o Gymru o ganlyniad. |
|
Llythyr y Pwyllgor Deisebau - alcohol ar yr ystâd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Ni wnaeth y
Comisiynwyr geisio gwneud unrhyw newidiadau i’r sefyllfa bresennol, sydd wedi’i
chynnwys yn y Polisi ar gyfer defnyddio’r Ystâd, sef na chaiff ein trwyddedeion
werthu na gweini alcohol i’w yfed ar ystâd y Cynulliad cyn 6pm yn ystod yr
wythnos yn ystod y tymor. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio a ddarparwyd. |
|
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (Mehefin) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gofnodion cyfarfod y Pwyllgor. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Caplaniaeth –
trafododd y Comisiynwyr nodyn a ddaeth i law gan gadeirydd y Grŵp
Trawsbleidiol ar Ffydd. Roedd Aelodau'r Comisiwn yn cydymdeimlo â'r pwynt a
wnaed, ond roeddent yn ymwybodol o faterion ymarferol ac nid oeddent yn dymuno
symud i drefniant ffurfiol heb ymgynghori'n fwy cynhwysfawr â'r Aelodau. Diogelu – cytunodd y
Comisiynwyr i gael gwybodaeth sy’n rhoi amlinelliad o’r ystyriaethau. Amodau Diogelwch a
Defnyddio TGCh – nododd y Llywydd ei bod wedi ysgrifennu at Aelodau am y
paramedrau ynghylch y system a'i bod yn bwriadu trafod hyn gyda'r grwpiau. |