Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Virginia Hawkins
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Antoinette Sandbach. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Russell George, a oedd yn dirprwyo ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.48. |
||
(13.00 - 13.40) |
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru CFP(4)-03-11 papur 1 Dr Clare Eno, Uwch Gynghorydd ar Bysgodfeydd Dr Sue Gubbay, Aelod o Gyngor Cefn Gwlad
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a gytunodd i ddarparu gwybodaeth am gost y cynllun newydd ar gyfer rheoli llongau. |
|
(13.40 - 14.20) |
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru CFP(4)-03-11 papur 2 John Clark, RSPB Cymru Debbie Crockard, y Gymdeithas Cadwraeth Forol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru, a gytunodd i ddarparu rhagor o wybodaeth am hawliau pysgota hanesyddol. |
|
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog, a gytunodd i ysgrifennu at y Grŵp cyn y Nadolig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am ei drafodaethau â Gweinidog Senedd y DU ynghylch rhywogaethau nad oes cwota ar eu cyfer, a’r concordat. |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |