Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
||
Ymchwiliad i'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru |
||
(12.30 - 13.00) |
Ofcom Media(4)-06-12 : Papur 1 Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru David Mahoney,
Cyfarwyddwr y Polisi ar Gynnwys, Ofcom Glyn Mathias, Cadeirydd
Pwyllgor Cynghori Ofcom dros Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom
yng Nghymru, David Mahoney, Cyfarwyddwr y Polisi ar Gynnwys, Ofcom yng Nghymru,
a Glyn Mathias, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Ofcom dros Gymru. Cytunodd Ofcom i
ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses o adnewyddu trwyddedau Sianel 3. Cytunodd y Clerc
i anfon cwestiynau nas gofynnwyd at Ofcom i’w hateb yn ysgrifenedig. |
|
(13.00 - 13.30) |
Panel Sector y Diwydiannau Creadigol Media(4)-06-12 : Papur 2 Ron Jones, Cadeirydd Panel Sector y Diwydiannau Creadigol Natasha Hale, Panel sector y Diwydiannau Creadigol Dogfennau ategol: Cofnodion: |
|
(13.30 - 14.30) |
Llywodraeth Cymru Media(4)-06-12 : Papur 3 Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth John Howells, Cyfarwyddwr yr Adran Tai, Adfywio a
Threftadaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Huw Lewis, y Gweinidog
Tai, Adfywio a Threftadaeth, a John Howells, Cyfarwyddwr yr Adran Tai, Adfywio
a Threftadaeth. Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau a gymerwyd gyda Llywodraeth
y DU i sefydlu cysylltiadau cryf rhwng S4C, darlledwyr eraill a’r Cynulliad. Cytunodd y Gweinidog
i ddarparu copi i’r Pwyllgor o’r ymateb a gafwyd i ymgynghoriad yr Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar yr adolygiad o gyfathrebu ar gyfer yr
oes ddigidol. |
|
(14.30 - 15.00) |
Cyngor Celfyddydau Cymru Media(4)-06-12: Papur 4 Nick Capaldi, Prif Weithredwr Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Grŵp dystiolaeth
gan Nick Capaldi, Prif
Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |