Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 317(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar y
diwrnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn
2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.21 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni gyflwynwyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai NDM7550 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai’ a gasglodd 18,103 o
lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM7550 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1032
Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai’ a gasglodd 18,103 o lofnodion. P-05-1032 Deddfu i atal
newid enwau Cymraeg tai Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru NDM7549
Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Hawliau plant yng
Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 11 Awst 2020. Nodyn:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 5 Hydref 2020. Dogfennau
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 NDM7549 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Hawliau plant yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2020. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19 NDM7547
Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2
rhag lledaenu. 2.
Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi
Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r
rhai olaf, drwy sicrhau: a)
bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu
cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob
cyswllt wyneb yn wyneb. b)
bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen
yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, lle mae
llai o farwolaethau fesul y o'r boblogaeth na Chymru. 4.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth
busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i
gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod effaith COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru. 2.
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a
bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan
gynnwys: a)
£5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru; b)
y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws; c)
y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig d)
cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws e)
y cynllun benthyciadau adfer; f)
caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a g)
defnyddio'r lluoedd arfog. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law gan Lywodraeth y
DU i gefnogi busnesau Cymru; b)
rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf
i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus; c)
gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu
cyflwyno; a d)
datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda
phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal
y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein
cymdeithas a'n cymunedau. 2.
Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi
economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn
addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig. 3.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn
gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny. 4.
Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros
£1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau
mis Ebrill 2020. Gwelliant
3 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn strategaeth
COVID-19 wahanol i Lywodraeth y DU. Cyd-gyflwynwyr Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Gwelliant
4 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu mai'r strategaeth COVID-19 fwyaf effeithiol i Gymru yw ymateb unedig,
DU-gyfan, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Cyd-gyflwynwyr Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r
cynnig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7547 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y niwed a
achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu. 2. Yn credu bod mesurau
lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi
effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau: a) bod gan Gymru drefn
brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i
unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb. b) bod gan GIG Cymru fwy
o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o
welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, lle mae llai o farwolaethau y
pen o'r boblogaeth na Chymru. 4. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau
bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu
Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod effaith
COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru. 2. Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru
a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys: a) £5.2 biliwn o gymorth
ariannol i Lywodraeth Cymru; b) y cynllun cadw swyddi
drwy gyfnod y coronafeirws; c) y cynllun cymorth
incwm i’r hunangyflogedig d) cynllun benthyciadau
tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws e) y cynllun
benthyciadau adfer; f) caffael brechlynnau a
cyfarpar diogelu personol yn y DU; a g) defnyddio'r lluoedd
arfog. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) dyrannu'r adnoddau
nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU i gefnogi
busnesau Cymru; b) rhoi terfyn ar
ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a
chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus; c) gwarantu bod cymorth
busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a d) datblygu cynllun
cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith
arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y
mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws
SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein
cymdeithas a'n cymunedau. 2. Yn nodi'r camau sy'n
cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i
hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn
economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig. 3. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n
ddiogel gwneud hynny. 4. Yn nodi mai ein pecyn
cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth
ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn strategaeth COVID-19 wahanol i Lywodraeth
y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r
strategaeth COVID-19 fwyaf effeithiol i Gymru yw ymateb unedig, DU-gyfan, dan
arweiniad Llywodraeth y DU. Cyd-gyflwynwyr Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7547 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y
mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws
SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein
cymdeithas a'n cymunedau. 2. Yn nodi'r camau sy'n
cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i
hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn
economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig. 3. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n
ddiogel gwneud hynny. 4. Yn nodi mai ein pecyn
cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth
ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.34 cafodd y trafodion eu hatal dros
dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 16.41 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7551
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cefnogi'r
rhai sy'n ein cefnogi ni: llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal
cymdeithasol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 NDM7551 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cefnogi'r rhai sy'n ein cefnogi
ni: llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol. |