Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 331(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r
Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-4
a 6-12. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.05 Ni ofynnwyd cwestiwn 1.
Gofynnwyd cwestiynau 2-4. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i’r Prif Weinidog] Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r
effaith y bydd Bil heddlu, troseddu, dedfrydu a llysoedd y DU yn ei chael ar
ddiogelwch menywod yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.19 Gofyn i'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif
Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil heddlu, troseddu, dedfrydu a
llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw
ddatganiadau 90 eiliad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau y Senedd NDM7654 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
Penodi'r Comisiynydd Safonau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021
("yr adroddiad"). 2. O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd
Safonau y Senedd o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar
1 Ebrill 2021. 3. O dan baragraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Fesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009: a) yn cytuno ar becyn taliadau'r Comisiynydd, yn
unol â pharagraff 1(b) o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, fel y nodir yn Atodiad A
i'r adroddiad; b) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen
i'r Mesur hwnnw, y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch addasu pecyn
taliadau’r Comisiynydd yn flynyddol i Glerc y Senedd; ac c) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen
i'r Mesur hwnnw, y gwaith o bennu’r holl delerau eraill y mae penodiad o'r fath
i gael effaith arnynt i Glerc y Senedd. Mesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 Y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Penodi’r Comisiynydd Safonau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM7654 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Penodi'r Comisiynydd Safonau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021 ("yr adroddiad"). 2. O dan adran 1(2) o
Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Douglas
Bain CBE TD yn Gomisiynydd Safonau y Senedd o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o
chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2021. 3. O dan baragraffau 1 a
2 o'r Atodlen i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009: a) yn cytuno ar becyn
taliadau'r Comisiynydd, yn unol â pharagraff 1(b) o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw,
fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad; b) yn dirprwyo, yn unol
â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o wneud penderfyniadau
ynghylch addasu pecyn taliadau’r Comisiynydd yn flynyddol i Glerc y Senedd; ac c) yn dirprwyo, yn unol
â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o bennu’r holl delerau
eraill y mae penodiad o'r fath i gael effaith arnynt i Glerc y Senedd. Mesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 Y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad: Penodi’r Comisiynydd Safonau Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru NDM7653 Russell George
(Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 NDM7653 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y
goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb 'P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru' NDM7652 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i
Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’
a gasglodd 5,386 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.59 NDM7652
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r
ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau
Lleol reoli'r farchnad dai yn
ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’ a gasglodd
5,386 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG NDM7655 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff
Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a
staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau
llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn
ystod y pandemig. 3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad
cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan
gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod
â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac
yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2021-2022. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r
safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad
cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu
Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu. Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn
annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy. Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel
lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm
Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac
amodau yn y sector. Yn cydnabod bod un o themâu allweddol "Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol" yn
canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg. Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer
Iechyd a Gofal Cymdeithasol [Os derbynnir Gwelliant 2, caiff Gwelliant 3 ei
dad-ddethol] Gwelliant 3
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl 'Lywodraeth nesaf
Cymru' a rhoi yn ei le 'i: a) gweithredu argymhellion y corff adolygu
cyflogau; b) cyflwyno setliad cyflog a chadw diwygiedig ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol; c) creu pecyn cymorth iechyd meddwl sylweddol ar
gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dioddef o effaith y pandemig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i
Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i
nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu
cyflogau. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i Gorff
Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau llafur a chyrff
eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am godiad
cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn ystod y pandemig. 3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad cyflog a chadw
diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm
gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod â'r gwahaniaeth
presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le: Yn cydnabod bod
cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1
biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr
hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i
bennu. Yn credu y dylai'r cyrff
adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy. Yn cydnabod bod GIG
Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r
Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal
cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych
ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector. Yn cydnabod bod un o
themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd
a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn
deg. Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod Gwelliant 2 wedi
ei dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r
GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a
fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau. 2. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr
hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau
pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i
bennu. 3. Yn credu y dylai'r
cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy. 4. Yn cydnabod bod GIG
Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r
Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal
cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych
ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector. 5. Yn cydnabod bod un o
themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd
a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn
deg. Cymru
Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.01 cafodd y trafodion eu hatal dros
dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.06. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.08 NDM7651 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Gwella iechyd meddwl, ar ôl y pandemig. |