Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 273KB) Gweld
fel HTML (99KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi
anfon ei hymddiheuriadau. Roedd Simon Thomas yn bresennol yn lle Neil McEvoy. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil datganiad
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn cadarnhau y bydd Cymunedau yn
Gyntaf yn cael ei ddileu'n raddol, cytunwyd y dylid ysgrifennu ato i ofyn: ·
sut y mae'n bwriadu cefnogi cynlluniau a phrosiectau llwyddiannus Cymunedau
yn Gyntaf yn y dyfodol; ac ·
a fydd parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn
Gyntaf yn cefnogi cynaliadwyedd
canolfannau ieuenctid fel Forsythia. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ystyried cynnwys datganiad sydd i ddod gan y Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid. |
|
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i godi cwestiynau
penodol a ofynnwyd gan y deisebydd, a gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod am
ganlyniad y drafodaeth yn y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid
Cymru. |
|
P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
cau'r ddeiseb o ganlyniad i'r eglurder ychwanegol am gadw pwerau'n ôl yn y
maes hwn i Senedd y DU a ddarparwyd gan Ddeddf Cymru 2017; ac ·
ysgrifennu at y deisebydd i awgrymu ei fod yn ystyried cyflwyno deiseb i
Senedd y DU ac ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a
Llywodraeth Leol ar y mater. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen
â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod
y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a
Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad. |
|
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod y gwasanaeth X94
wedi cael ei ddisodli gan y gwasanaeth T3 a weithredir gan ddarparwr gwahanol,
a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn. |
|
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen
â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod
y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a
Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad. |
|
P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb
y cysylltiad gyda'r deisebwr. |
|
P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ac, wrth wneud hynny, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Seilwaith i ofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am ganfyddiadau'r
adolygiad arfaethedig ar ôl i 12 mis o ddata gael eu casglu o orfodi'r Terfyn
Cyflymder Newidiol. |
|
P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig,
i rannu sylwadau'r deisebwr, a gofyn a yw asesiad effaith rheoleiddiol ar
effaith economaidd a chymdeithasol y cynigion wedi cael ei wneud, a sut y mae
Llywodraeth Cymru yn ystyried dulliau amgen; ac ·
aros am gyhoeddiad ynghylch camau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru
ar ôl yr ymgynghoriad. |
|
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
|
|
P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr
adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol
(IPFR) a gofyn am farn y deisebwyr eto ar y pwynt hwnnw. |
|
P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y pryderon a'r
cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr. |
|
P-05-704 Dod ag Arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd
â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cysylltiad gyda'r deisebwr. |
|
P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod
y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud
argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen. |
|
P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cadarnhad a dderbyniwyd oddi
wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ei fwriad i wneud
darlledu cyfarfodydd Cynghorau yn ofyniad statudol. |
|
P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o
bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol,
ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr
â'r broses honno. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cofnodion: Rhoddodd Clerc y Pwyllgor ddiweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno newidiadau
posibl i System Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. |