Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/04/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.

 

Roedd Natasha Asghar AS yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwy ar gyfer Joel James AS.

 

Roedd Rhys ab Owen AS yn absennol.

 

 

1.1

P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Cofnodion:

Gwnaeth Peredur Owen Griffiths AS gywiriad ffeithiol i sylwadau a wnaed yn ystod trafodaeth ddiwethaf y Pwyllgor ar y ddeiseb ar 18 Mawrth.

 

 

1.2

P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024

Cofnodion:

Gwnaeth Peredur Owen Griffiths AS gywiriad ffeithiol i sylwadau a wnaed yn ystod trafodaeth ddiwethaf y Pwyllgor ar y ddeiseb ar 18 Mawrth.

 

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1397 Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater eisoes yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn eu cyngor a’u hargymhellion, a fydd yn dilyn yr adolygiad o dreialon hunan-samplu.

 

At hynny, mae wedi bod yn ystyriaeth yn ddiweddar yn Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ganserau gynaecolegol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru eu hargymhellion, a oedd yn cynnwys ystyried hunan-samplu ar gyfer canserau ceg y groth.

 

Yng ngoleuni’r gwaith a wnaed eisoes ar y mater, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am dynnu sylw at bwysigrwydd dod o hyd i ffyrdd o leihau’r rhwystrau i sgrinio serfigol.

 

 

2.2

P-06-1398 Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn y Teifi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn rhannu sylwadau a chynigion Grŵp Cymunedol Achub y Teifi ac yn aros am ymateb pellach; a hefyd

Cyfoeth Naturiol Cymru, i holi pa effaith a gaiff setliad y gyllideb ar y gwaith arfaethedig i wella ansawdd dŵr a chyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â monitro iechyd yr afon, a gorfodi gofynion cyfreithiol.

 

2.3

P-06-1399 Dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AAGIC) wneud Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn fodiwl datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol mewn addysg feddygol ôl-radd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd ar ei chyflawniad yn codi ymwybyddiaeth o PMDD a chydweithio’n llwyddiannus i ddatblygu modiwl e-ddysgu datblygiad proffesiynol parhaus, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

 

Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb ond wrth wneud hynny, parhau i gefnogi ymgyrch y deisebydd i sicrhau bod merched a menywod yn cael mwy o wybodaeth drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i rannu’r argymhellion ar gyfer gwelliannau a amlinellwyd yn ei gohebiaeth.

 

2.4

P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn pa waith – os o gwbl – y maent yn bwriadu ei gynnal ynghylch Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac a allai’r ddeiseb hon a’r pryderon a godwyd gan BMA Cymru fod yn rhan o ymchwiliad yn y dyfodol.

 

Unwaith y ceir ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd yr Aelodau’n ystyried y ddeiseb ymhellach a’r camau mwyaf priodol i’w cymryd.

 

2.5

P-06-1405 Mae eisiau ac mae angen uned Iechyd Meddwl â gwelyau i ddynion arnom ni yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wneud y canlynol:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar i ofyn am y ddarpariaeth o gymorth iechyd meddwl acíwt 24/7;
  • aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed, a strategaeth newydd iechyd meddwl a llesiant; a hefyd

ceisio eglurhad gan bob Bwrdd Iechyd Lleol ar nifer y lleoedd sydd ar gael i gleifion mewnol.      

 

2.6

P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y ddeiseb cyn gynted â phosibl.

 

2.7

P-06-1412 Rydym am i Lywodraeth Cymru gadw’r gyfraith 20mya ardderchog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i'w chadw ar agor tra'n aros am ganlyniad y ddadl ar P-06-1407: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya.

 

2.8

P-06-1418 Dylid cyflwyno deddfwriaeth newydd i ddiogelu meysydd chwaraeon rhag baw cŵn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ymweld â Chlwb Rygbi Abercarn i weld maint y broblem, gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ymhellach am y mater.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gynnig y Gweinidog i gwrdd â'r deisebydd i drafod unrhyw gamddealltwriaeth posibl o ran cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal di-dâl. Yng ngoleuni cynnig y Gweinidog, a bod gohebiaeth helaeth ar y mater hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.2

P-06-1217 Agor canolfannau/clinigau meddygol un stop Covid Hir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd bellach wedi cyfarfod â swyddogion y Gweinidog a bod y ddeiseb wedi bod ar agor ers tair blynedd. Er bod llawer o bobl yng Nghymru yn parhau i ddioddef o Covid Hir, nid yw'n glir beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud i fynd â'r ddeiseb ymhellach. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater pwysig hwn.

 

 

3.3

P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

Datganodd Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mynychodd gynhadledd yn Valencia ar y pwnc.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gasgliadau'r adroddiad manwl a manwl a luniwyd gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu.

 

Nododd yr aelodau fod y ddeiseb wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau gwell dealltwriaeth, a chytundeb ‘mewn egwyddor’ y gallai cynllun peilot fod yn werth chweil. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd.

 

3.4

P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd, ar ôl ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol eto ar y mater hwn, nad yw'n glir beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud i fynd â'r ddeiseb ymhellach. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.5

P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a nododd fod y sefyllfa wedi datblygu ers i'r ddeiseb gael ei chyflwyno, a'i bod yn parhau i ddatblygu. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y sector, a disgwylir y Bil Bws yn ddiweddarach eleni.

 

Yng ngoleuni’r gwaith parhaus ar fysiau, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.6

P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd mai dyma’r bumed tro i’r ddeiseb hon gael ei hystyried. Gan fod y deisebwyr mewn cysylltiad â swyddogion y GIG – ac yn bwriadu cyfarfod â nhw – cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a dymuno’n dda i’r deisebwyr yn eu hymgyrch.

 

 

3.7

P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored nes bod apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys (neu’r DEC) yn ei lle.

 

3.8

P-06-1391 Dylid rheoleiddio'r sector steilio cŵn, er mwyn diogelu lles cŵn a hawliau perchnogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i'w chadw ar agor hyd nes y cyhoeddir crynodeb o dystiolaeth Llywodraeth Cymru.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

5.

Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân-newidiadau.