Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2024 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

 

Datganodd Sarah Murphy AS, Heledd Fychan AS a Jane Dodds AS eu bod yn aelodau o Gawcws Menywod y Senedd, a fyddai’n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5. 

(09.15)

2.

Papurau i'w nodi

2.1

Llythyr at Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 22 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

2.2

Llythyr oddi wrth Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 12 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

2.3

Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â’r Aelodau sy’n gyfrifol am Filiau Llywodraeth Cymru – 5 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

2.4

Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 17 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

2.5

Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 15 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(09.15-10.15)

3.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda Diverse 5050

Victoria Vasey, Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru)

Jessica Blair, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru

Nkechi Allen-Dawson, Cyngor Hiliaeth Cymru

Selima Bahadur, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru

 

Dogfennau ategol

Papur 1 Tystiolaeth ysgrifenedig: 5050 Amrywiol [Saesneg yn unig]

Papur 2 Tystiolaeth ysgrifenedig: Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru  [Saesneg yn unig]

Briff Ymchwil

Papur 3 nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Diverse 5050.

 

(10.25-11.20)

4.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Rhwydwaith Hawliau Menywod

Catherine Larkman, Cydlynydd Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru

Claire Loneragan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Hawliau Menywod

Katharine Owen, Rhwydwaith Hawliau Menywod

 

Dogfennau ategol

Papur 4 Tystiolaeth ysgrifenedig: Rhwydwaith Hawliau Menywod [Saesneg yn unig]

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Rhwydwaith Hawliau Menywod.

 

(11.30-12.15)

5.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda Chawcws Menywod y Senedd

Joyce Watson AS, Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd

Janet Finch-Saunders AS

Sioned Williams AS

Rhianon Passmore AS

 

Dogfennau ategol

Papur 5 Tystiolaeth ysgrifenedig: Joyce Watson AS, Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd [Saesneg yn unig]

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gawcws Merched y Senedd.

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, rhannodd Rhianon Passmore AS gopi caled o’i hadroddiad ar Fforwm Byd-eang Reykjavik – Arweinwyr Merched 2023.

 

Cytunodd Rhianon Passmore AS hefyd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am arolwg Arweinwyr Gwleidyddol Merched a 6ed pwynt data Ymchwil Fynegai Byd-eang Verien, a chyhoeddwyd cofnodion cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad, Rhanbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir.

 

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac ar gyfer eitem 1 yn y cyfarfod ar 1 Mai 2024

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.15-12.30)

7.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.