Dyddiad: Dydd Gwener 27 Ebrill 2012
Amser: 09:00 - 13:00
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Diben y digwyddiad yw dathlu a hyrwyddo cychwyn prosiect cyfeillio newydd wedi’i anelu at gefnogi pobl hyn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn falch o gael cefnogaeth a nawdd Jane Hutt, Aelod Cynulliad Bro Morgannwg. Prosiect cyffrous newydd yn cynnig ystod o wasanaethau cyfeillio i leihau unigrwydd ac unigedd a gwella lles pobl hyn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yw Prosiect Cyfeillio Cyfeillgar AdvantAGE. Bydd y prosiect, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, yn gweithredu dros gyfnod o bedair blynedd drwy gonsortiwm o ddarparwyr gwasanaethau sydd â phrofiad o gefnogi pobl hyn, Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg, Scope Cymru, Cymdeithas Wirfoddol Dinas Powys a Chanolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro. Amcan y prosiect yw mynd i’r afael â bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gyda phum model cyfeillio yn targedu grwpiau penodol.
Noddir gan: Jane Hutt AC
Agored i’r cyhoedd: Na, gwahoddedigion yn unig