Ymgynghoriad

Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i archwilio'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yng Nghymru, gan gynnwys:

  • A yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r canlyniadau a'r mesurau perfformiad, fel y'u nodir yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, erbyn 2016;
  • Y cynnydd o ran lleihau'r bwlch anghydraddoldebau mewn achosion o ganser a chyfraddau marwolaethau;
  • Effeithiolrwydd gwasanaethau sgrinio ar gyfer canser a lefel y defnydd o fewn poblogaeth Cymru, yn arbennig y grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd;
  • A all cleifion ledled Cymru gael mynediad at y gofal sydd ei angen (er enghraifft, mynediad at brofion diagnostig neu ofal y tu allan i oriau) mewn lleoliad priodol ac mewn modd amserol;
  • Lefel y cydweithio o fewn sectorau, yn arbennig rhwng y GIG a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan dimau amlddisgyblaethol;
  • A yw'r lefel bresennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau canser yn briodol, yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol