Penderfyniadau
CLA417 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
10/12/2014 - The Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2014
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn
drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael
ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Tachwedd 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.