Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Plant a Phobl Ifanc
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
06/02/2014 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to smoking in private vehicles carrying a person or persons under the age of 18
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5427
Mark Drakeford (Cardiff West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario
person neu bersonau o dan 18 oed, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
3 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
05/02/2014 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to the purchase of tobacco etc on behalf of children, and prohibition of sale of nicotine containing products (e-cigarettes etc) to persons under 18 and the creati
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5424 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu
bapurau sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu
cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau,
cosbau a chamau gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Am
14.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am ddeg munud. Cafodd y gloch ei
chanu bum munud cyn ailgynnull ar gyfer trafodion Cyfnod 3 ar y Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
22/01/2014 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to section 38 of the Children and Young Persons Act 1963 (child performances)
Dechreuodd yr
eitem am 16.41
NDM5390
Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd, sy’n ymwneud
â diddymu adran 38 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, i’r graddau y mae’n dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar
20 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
22/01/2014 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in relation to the regulation of retail packaging of tobacco products, the regulation of tobacco products themselves and the creation of associated offences
Dechreuodd yr
eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5389
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â
rheoleiddio pecynnu manwerthol cynhyrchion tybaco, rheoleiddio'r cynhyrchion
tybaco eu hunain a chreu troseddau cysylltiedig, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
3 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
15/01/2014 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Children and Families Bill in respect of an amendment in relation to section 98(1) of the Adoption and Children Act 2002
Dechreuodd
yr eitem am 16.38
NDM5383
Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud
â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3
Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17/04/2013 - Legislative Consent Memorandum on the Children and Families Bill
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud
â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o
Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.