P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni’n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd ac i edrych pa mor ymarferol fyddai i Gymru gael Sefydliad Heddwch i edrych ar heddwch a hawliau dynol, tebyg i’r sefydliadau a gefnogir gan lywodraethau gwladwriaethau yn Fflandrys, Catalonia a mannau eraill yn Ewrop.

 

Prif ddeisebydd:

Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, Cymdeithas y Cymod, Cynefin y Werin ac CND Cymru

 

Nifer y deisebwyr:

1525

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2013

Y Broses Ymgynghori

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at  deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Llun, 14 Rhagfyr 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.

 

Dogfennau