Geiriad y ddeiseb:
Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005)’ yn darparu cyngor a chanllawiau sydd, heb amheuaeth, yn arwain at halogi cefn gwlad prydferth canolbarth Cymru. Bydd dilyn y canllawiau hyn yn difetha ein tirwedd brydferth; yn cynyddu’r perygl i iechyd a achosir gan belydriad electromagnetig; yn niweidio twristiaeth, sef un o’r prif sectorau cyflogaeth; yn datbrisio adeiladau ac yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd.
Pan gyhoeddwyd y nodyn cyngor technegol, a elwir yn TAN 8 yn aml, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005, nid oedd y boblogaeth leol yn amgyffred i ba raddau y byddai’n effeithio ar drigolion canolbarth Cymru.
Bydd Nodyn Cyngor Technegol 8 yn caniatáu i gannoedd o dyrbinau gwynt gael eu hadeiladu yn ein cymunedau.
O ganlyniad i adeiladu’r ffermydd gwynt hyn, bydd rhaid i’r Grid Cenedlaethol osod llinellau trawsyrru pŵer i gludo’r pŵer i le bydd ei angen, er ein bod yn cydnabod nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhan o’r broses o benderfynu ar osod y llinellau pŵer hyn.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad sylweddol o bolisi TAN 8 a fydd yn cynnwys mwy o ymgynghori â’r cyhoedd.
Prif
ddeisebydd:
John
Day
Nifer y deisebwyr:
3249 (mae deisebau cysylltiol wedi casglu oddeutu 13,500 o lofnodion)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;