Cwestiynau cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Cwestiynau cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n
dod o fewn
eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion
Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod
a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw
yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad
a bennwyd ar gyfer ei ateb.
Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar
gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;