Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, ac ymgynghoriad y Pwyllgor, ar flog y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddibenion y Bil yw:

  • Cryfhau'r dull o gynllunio a arweinir gan gynlluniau. Mae'r Bil yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd i Weinidogion Cymru allu paratoi cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru. Bydd y fframwaith yn nodi blaenoriaethau defnydd tir cenedlaethol a gofynion isadeiledd ar gyfer Cymru.
  • Gwneud darpariaeth ar gyfer llunio Cynlluniau Datblygu Strategol, i fynd i'r afael â materion traws-ffiniol nad ydynt yn rhai lleol, fel cyflenwad tai ac ardaloedd ar gyfer twf economaidd ac adfywio.
  • Gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori cyn ymgeisio, ac i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio.
  • Gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dderbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o bwys cenedlaethol. Bydd ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio hefyd yn gallu gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio lle ystyrir bod awdurdod cynllunio lleol perfformio'n wael.
  • Diwygio'r system o reoli datblygu i symleiddio gweithdrefnau, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn brydlon, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau.
  • Gwella gweithdrefnau gorfodi ac apêl. Gwneir newidiadau hefyd mewn perthynas ag adennill costau ar gyfer partïon sy'n gysylltiedig ag achosion cynllunio.
  • Gwneud newidiadau mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru meysydd tref a phentref.

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 6 Gorffenaf 2015 (gwefan allanol).

Geirfa’r Gyfraith

 

A’r Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu memorandwm esboniadol diwygiedig.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 


Cyflwyno'r Bil
: 6 Hydref 2014


Y Bil Cynllunio (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm esboniadol

 

Datganiad gan y Llywydd: 6 Hydref 2014

 

Datganiadau o Fwriad Polisi

 

Atodlen Keeling

 

Crynodeb o’r Bil gan y Gwasanaeth Ymchwil

 


Cyfnod 1:
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 7 Tachwedd 2014.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil ar y dyddiad(au) canlynol:

 

27 Tachwedd 2014

3 Rhagfyr 2014

11 Rhagfyr 2014

14 Ionawr 2015

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymateb i Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

 

 


Cyfnod 1:
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2015.

 

 


Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2015.

 


Cyfnod 2:
Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 11 Chwefror 2015. Bydd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yn cael eu cyhoeddi yma.

 

Bydd ystyriaeth Cyfnod 2 yn digwydd mewn cyfarfod Pwyllgor ar 18 Mawrth 2015. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan gânt eu hystyried.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Chwefror 2015

Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 11 Chwefror 2015 (Saesneg yn unig)  

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 3 Mawrth 2015

Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 3 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 5 Mawrth 2015

Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 5 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 9 Mawrth 2015  

Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 9 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Mawrth 2015

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 18 Mawrth 2015

Grwpio gwelliannau: 18 Mawrth 2015

Bil Cynllunio (Cymru) – Fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Y Gwasanaeth Ymchwil: Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd

 

 


Cyfnod 3:
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 27 Mawrth 2015. Bydd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yn cael eu cyhoeddi yma.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Ebrill 2015*

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Ebrill 2015*

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 17 Ebrill 2015*

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 20 Ebrill 2015

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Ebrill 2015

 

Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 22 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Ebrill 2015

 

Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 24 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Ebrill 2015

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 5 Mai 2015

 

Grwpio gwelliannau: 5 Mai 2015

 

Y Bil Cynllunio (Cymru) – Fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

 

 


Cyfnod 4:
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 19 Mai yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil Cynllunio (Cymru) - Fel y’i pasiwyd

 

Bil Cynllunio (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

 


Ar ôl Cyfnod 4

 

Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

 

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Cynllunio (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 


Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffenaf 2015.

 

 

Gwybodaeth gyswllt

Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Clerc: Alun Davidson

Rhif ffôn: 0300 200 6565

E-bost: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau