P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.
P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.
Yr ydym
ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'w gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ailsefydlu ar
unwaith Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes, a'r Grŵp Cynllunio a
Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.
Mae
diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes ym mis Ebrill 2011 a chanslo
cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig statudol ym
mis Mehefin 2013 yn amddifadu cleifion rhag cyfrannu, fel y diffinnir yn y
'Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru' a'r 'Canllawiau
ar Gynnwys Defnyddwyr a Gofalwyr sy'n defnyddio Gwasanaethau Oedolion y GIG
'. Mae diddymu’r Grŵp Cynllunio a
Chyflawni Gwasanaethau Diabetig yn uniongyrchol groes i'r cyfarwyddiadau a
nodir mewn gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
Gadeirydd pob Bwrdd Iechyd Lleol ac oddi wrth Brif Weithredwr GIG Cymru at Brif
Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol ym mis Mehefin 2010. Mae'r ohebiaeth yn
datgan: -
....."Each
DPDG should take responsibility for leading, managing and reporting to the LHB
Board and to the Chief Executive of NHS on progress with the delivery
of the NSF." ......and............."The DPDG will need to ensure
effective engagement with service users and is an integral part of
the LHB structures underpinning the implementation of the CCM (Chronic
Conditions Management) policy agenda." (Mae cynrychiolwyr cleifion ar
bob un o’r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.)
Gwybodaeth Ychwanegol
Ym mis
Mehefin 2013 lluniodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad adroddiad
ar ganlyniad yr 'Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol'. Daethant i'r casgliad canlynol yn
Argymhelliad 5: -
"Rydym
yn argymell y dylai'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes newydd sicrhau bod
perthynas Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes lleol â byrddau
iechyd yn cael ei ffurfioli. Dylai Byrddau Iechyd ddangos sut y maent yn
ystyried argymhellion y Grwpiau ac yn ymgysylltu'n llawn â'u gwaith. Dylid rhoi
trefniadau ar waith i fabwysiadu dull cenedlaethol ar gyfer y Grwpiau, i
gynnwys cylch gorchwyl cenedlaethol ar gyfer sut y maent yn gweithredu a
gofyniad iddynt gyfarfod â'i gilydd i rannu arferion gorau."
Ym mis
Hydref 2013 lansiwyd 'Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer
Diabetes' gan Lywodraeth Cymru. Ym Mhennod 10: "CYNLLUNIAU LLEOL -
GWEITHREDU'n LLEOL" nodir fel a ganlyn: -
...."Mae
angen i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a’r Cynllun Cyflawni hwn
ar gyfer Diabetes. Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn cynorthwyo eu Grwpiau Cynllunio
a Chyflawni ar gyfer Diabetes i adolygu, diweddaru a chyhoeddi cynlluniau
cyflawni lleol manwl ar gyfer diabetes. Bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn cynorthwyo
ac yn galluogi’r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes i weithredu’r
cynllun cyflawni ar gyfer diabetes, adrodd ynghylch cynnydd, cyhoeddi’r
wybodaeth ddiweddaraf bob chwe mis ar eu gwefannau a chyfrannu at yr adroddiad
blynyddol i Gymru gyfan a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru."
Yn syml, nid oes bellach fodd i gleifion
diabetes ym Mhowys gyfrannu na chael gwybodaeth sylfaenol am gynllunio neu
ddarparu gwasanaethau. Rydym wedi'n difreinio ac wedi'n hamddifadu o nod
datganedig Llywodraeth Cymru: -
.
"I sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG ... yn cymryd rhan
wirioneddol ac adeiladol ym mhob agwedd ar y gwasanaeth."
Prif
ddeisebydd: Robert V Wright
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 40 llofnod a’r lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2014