Sesiwn breifat

Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(i) lle mae cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch gwladol, ymchwiliad i anghyfreithlondeb honedig, effeithiolrwydd gwaith gorfodi'r gyfraith neu weinyddu cyfiawnder yn briodol yn ei gwneud yn ofynnol i’r trafodion gael eu cynnal yn breifat;

(ii) lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu gwybodaeth bersonol am unigolion penodol sydd wedi'u hadnabod neu y gellir eu hadnabod ac na ddylid ei datgelu;

(iii) lle byddai trafod eitem benodol o fusnes yn gyhoeddus yn debyg o achosi niwed i fuddiannau masnachol neu economaidd;

(iv) lle byddai trafod eitem benodol o fusnes yn gyhoeddus yn debyg o achosi niwed i iechyd neu ddiogelwch unigolyn, y cyhoedd, neu'r amgylchedd;

(v) lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddeunydd a fyddai, yn ôl pob tebyg, yn cael ei ystyried yn ddeunydd sy’n difenwi unrhyw berson;

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

(vii) lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu naill ai cyngor cyfreithiol a roddwyd yn gyfrinachol, neu wybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol gan berson neu gorff (gan gynnwys awdurdod cyhoeddus) neu mewn gohebiaeth gyfrinachol ag ef nad oedd o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu’r wybodaeth honno ac nad yw wedi cydsynio i’w datgelu i’r cyhoedd;

(viii) lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddogfen neu ddogfennau a gâi eu gwahardd neu eu hesemptio rhag cael eu datgelu o dan ddeddfwriaeth; neu

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

Math o fusnes:

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help