Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi)
Mae'r
Bil Mynediad at Driniaethau
Meddygol (Arloesi), yn Fil Aelod Preifat a
gyflwynwyd yn Senedd y DU gan Chris Heaton-Harris AS. Prif amcan polisi'r Bil
yw annog arloesi cyfrifol mewn triniaeth feddygol.
Cyflwynodd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Mynediad at
Driniaethau Meddygol (Arloesi) (PDF, 186KB) ar 13 Ionawr
2016.
Cafodd
y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes ar 19 Ionawr 2016, gydag amserlen i adrodd
erbyn 25 Chwefror 2016.
Gwnaed
gwelliannau i'r Bil Mynediad at Driniaethau
Meddygol (Arloesi) yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin
ar 29 Ionawr 2016. Cafodd y cymalau
perthnasol a oedd yn ymwneud â Chymru eu dileu o'r Bil. Fel y cyfryw, penderfynodd Llywodraeth Cymru na
fyddai’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ofynnol mwyach (PDF,
154KB).
Ni
wnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/01/2016
Dogfennau