Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn pryderu am statws
a defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r
Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac rydym yn falch
iawn o’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae’r
penderfyniad i adael i’r Cofnod - dogfen o’r pwys
symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith Saesneg ar y
cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl
groes i’r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y
Gymraeg.
Galwn felly ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol.
Prif ddeisebydd:
Catrin Dafydd
Nifer y deisebwyr:
1334
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;