Rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru

Rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn cynnal ymchwiliad i’r rhagolygon ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i edrych ar y rhagolygon ar gyfer gwahanol lwyfannau’r cyfryngau yng Nghymru drwy ystyried:

 

  • cyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn ei chael ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;
  • beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil cyfathrebu;
  • y cyfleoedd ar gyfer adeiladu modelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru; a
  • beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys ac plwraliaeth y ddarpariaeth.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/04/2016

Dogfennau