Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i
annog Llywodraeth Cymru i:
-
adolygu’r Prosiect
Gwyrdd, sy’n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o
ddarparu cyfleusterau yn lleol a chaniatáu i’n
cynghorau ddewis eu systemau caffael eu hunain ar gyfer rheoli
gwastraff a thechnoleg gwastraff;
-
adolygu’r arolwg
diffygiol ar wastraff yng Nghymru a oedd yn rhoi dau ddewis yn unig
i bobl ynghylch gwaredu gwastraff;
-
erbyn 2020, ei gwneud yn
anghyfreithlon i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu gan y byddai
hyn yn annog cynghorau i ailgylchu.
Prif
ddeisebydd:
Terry Evans
Nifer y deisebwyr:
21 (Casglwyd deiseb gysylltiedig 13,286 o
lofnodion hefyd)