P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer a/neu wella’r cysylltiadau trên a bws rhwng Caerfyrddin yn sir Gaerfyrddin ac Aberystwyth yn sir Ceredigion.
Prif ddeisebydd:
Craig Owen Lewis
Nifer y deisebwyr:
556
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Y Broses Ymgynghori
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a
sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o
rôl eich sefydliad.
Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig
oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a
gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd
bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu
Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i
ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig
ohoni at deisebau@cymru.gov.uk. Fel
arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Llun, 3 Ionawr 2012.
Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad
hwn.
Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.
Dogfennau