Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol
Ymchwiliad i’r achos busnes dros Un Corff Amgylcheddol
Ar 29 Tachwedd 2011, yn dilyn canlyniad yr achos busnes, cyhoeddodd John
Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, fod Llywodraeth
Cymru wedi penderfynu sefydlu un corff amgylcheddol newydd i Gymru. Bydd
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth
Cymru yn cael eu huno er mwyn creu’r corff newydd. Nododd y Llywodraeth mai
amcanion y corff fydd cyflanwi’r canlyniadau sydd wedi’u nodi yn Fframwaith yr
Amgylchedd Naturiol, sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Penderfynodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd cynnal ymchwiliad byr a
chryno er mwyn asesu a fydd yr achos busnes a lywiodd penderfyniad Llywodraeth
Cymru i greu corff newydd yn llwyddo i gyflawni canlyniadau’r amgylchedd
naturiol mae’r Llywodraeth am eu diogelu.
Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- asesu a yw’r achos busnes a
gyflwynwyd er mwyn creu
un corff amgylcheddol yn rhoi digon
o ystyriaeth i’r canlyniadau eang sydd wedi’u nodi yn Fframwaith
yr Amgylchedd Naturiol;
- asesu a yw’r achos busnes yn adlewyrchu’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig ag uno’r cyrff
statudol presennol yn ddigonol;
- dadansoddi a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o ystyriaeth i’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â
chreu un corff amgylcheddol, gan gynnwys:
- y risgiau ariannol
ac economaidd;
- y risgiau cyfreithiol
a deddfwriaethol;
- y risgiau perfformiad;
- y risgiau atebolrwydd
a thryloywder, a’r
- risgiau i enw
da’r sefydliadau gwreiddiol;
- asesu a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o sylw i farn rhanddeiliaid allweddol a effeithir
arnynt gan y cynlluniau i greu
un corff amgylcheddol.
Mae’r materion sydd wedi hystyried gan y Pwyllgor fel rhan o’r cylch
gorchwyl hwn yn cynnwys:
- y canlyniadau a’r amcanion mae Llywodraeth
Cymru wedi’u nodi yn ei hystyriaethau ar gyfer fframwaith yr amgylchedd
naturiol ac a yw’r achos
busnes yn rhoi digon o sylw o’r math o gorff a fyddai orau ar gyfer
cyflawni’r canlyniadau
hyn;
- y costau a’r buddion sydd wedi’u nodi yn
yr achos busnes ar gyfer y gwahanol
opsiynau ac a fyddai’r
rhain yn ddigon cynhwysfawr a chadarn neu a ddylid rhoi ystyriaeth i faterion eraill;
- a yw’r risgiau a nodwyd yn yr achos busnes
yn ddigon eang a chynhwysfawr neu a oes risgiau ychwanegol sydd heb eu
canfod;
- barn rhanddeiliaid o’r achos busnes ac a ymgynghorwyd yn ddigonol â hwy wrth ei ddatblygu.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2013
Dogfennau