Geiriad y ddeiseb:
Nid ydym ni, trigolion ward Pen-y-lan yn etholaeth Canol Caerdydd, yn cael mynediad llawn i’r rhyngrwyd.
Mae methiant parhaus BT, a’r holl ddarparwyr telathrebu eraill, i fuddsoddi yn yr ardal rhwng Cynoced Road a Chyfnewidfa Llanedern A48 yn golygu bod bron i 500 o gartrefi yn derbyn dim ond 20% o’r isafswm cyflymder rhyngrwyd derbyniol yn y DU, sef 2 megabeit. Mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn y DU yn derbyn cyflymder o leiaf 5 i 10 megabeit. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn dod â Man Gwan Pen-y-lan i ben.
Prif ddeisebydd:
Trigolion Penylan
Nifer y deisebwyr:
348
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;