P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, pobl Llanelli, y dref â’r boblogaeth fwyaf yn ardal Hywel Dda, yn mynnu bod Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei adfer yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cwbl weithredol, a bod llawfeddygaeth ddewisol fawr yn dychwelyd yno, gan gynnwys llawfeddygaeth gastroberfeddol, fasgwlaidd, ac ym meysydd wroleg, gynecoleg a thrawma. Byddai hynny wedi’i gefnogi gan y 5 gwely Uned Therapi Dwys gwreiddiol, a fyddai wedi’u staffio’n llawn, ac a fyddai’n cefnogi Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi’i staffio’n llawn, y byddai arbenigwyr ymgynghorol yn ei harwain, gan ddarparu cymorth i’r meddygon.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Rhwydwaith Gweithredu Tywysog Philip

 

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  29 Mai 2012

 

Nifer y llofnodion:  tua 24,000

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Help