Geiriad
y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gadw at ei
haddewid i weithio tuag at
gyflog byw
i bob gweithiwr yng Nghymru a
dweud wrthym pryd a
sut y bydd
yn gwneud i
hyn ddigwydd.
Waeth pa mor galed y maent yn ymdrechu, nid yw’r isafswm cyflog yn ddigon i rai rhieni gael deupen llinyn ynghyd a rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd i blant fel ni. Mae’r cyflog byw yn golygu y byddai rhieni sy’n gweithio yn ennill o leiaf £7.20 yr awr.
Rydym
yn ymgyrchwyr
ifanc sy’n gweithio
gydag Achub
y Plant ledled y DU o blaid newid.
Rydym yn
ymgyrchu dros gyflog
byw, ac yn
cynrychioli barn pobl ifanc,
teuluoedd a chymunedau yng
Nghymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb
gan: Achub
y Plant
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 196
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;