Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gomisiwn y Cynulliad dderbyn
argymhelliad pwyllgor craffu’r Bil Ieithoedd Swyddogol dros
sicrhad ar wyneb y Bil y cyhoeddir Cofnod cwbl ddwyieithog o holl
drafodion y Cynulliad.
Mae eu hargymhellion yn adlewyrchu dymuniad pobl Cymru i weld
triniaeth cyfartal i’r Gymraeg ac i atal camwahaniaethu yn
erbyn y Gymraeg a’i defnydd.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Ceri Phillips
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 748
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;