Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Cynon, drwy gwblhau canolfan eni Tair Afon, fel y’i cynlluniwyd yn wreiddiol yn Ysbyty Cwm Cynon.
Gwybodaeth ategol:
Cafodd Ysbyty Cwm Cynon ei gynllunio gyda lle i ganolfan eni dan arweiniad bydwragedd. Er bod y lle ar gael yn yr ysbyty a bod llawer o’r gwaith wedi’i gwblhau, gwnaed y penderfyniad i beidio â chael y ganolfan eni. O ganlyniad i hyn, rhaid i fenywod Cwm Cynon deithio i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful neu ddewis geni eu plant gartref. Mae tynnu’r gwasanaethau hyn oddi ar bobl Cwm Cynon yn annerbyniol..
Prif ddeisebydd:
Sarah Rachel Gait
Nifer y llofnodion:
406
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Statws: I'w ystyried
Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau