Geiriad y
ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymell cyflogwyr
sy’n adleoli i Gymru, neu’n agor cyfleusterau a
marchnadoedd yma, i recriwtio staff lleol a’u hyfforddi pan
fo angen gwneud hynny.
Gwybodaeth
ategol:
Mae enghreifftiau o bob cwr o Gymru o swyddi newydd yn
cael eu cymryd gan
weithluoedd o’r tu allan i Gymru - gweithluoedd cyfan mewn
rhai achosion. Gallai cytuno ar ddiffiniad o ‘weithiwr
allweddol’ helpu i osgoi sefyllfaoedd fel hyn. Dylid ei
gyfyngu i swyddi arbenigol pan nad yw’r sgiliau neu’r
cymwysterau gofynnol ar gael yn lleol a phan na allai pobl leol eu
hennill yn ystod cyfnod byr o hyfforddiant. Fel arall, mae’n
gamarweiniol, ar y gorau, bod gwleidyddion, y cyfryngau ac eraill
yn cyhoeddi ‘swyddi newydd’, pan fo pobl Cymru yn cael
eu hamddifadu o’r swyddi hynny, i bob pwrpas.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref 2012
Prif ddeisebydd: Royston Jones
Nifer y llofnodion: 65
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau