P-04-415 : Cefnogaeth am bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
Geiriad y ddeiseb
Rydym
yn cefnogi
polisi Llywodraeth Cymru i bennu Parthau
Cadwraeth
Morol
lefel gwarchodaeth uchel ac
yn annog y
Llywodraeth i lynnu at y polisi
hwnnw.
Nodwn y beichiau sydd
ar ein
moroedd, methiant Cymru i gyrraedd ei
thargedau bioamrywiaeth ar
gyfer 2010 a’r dystiolaeth
wyddonol gadarn sy’n
profi’r angen am fesurau
cadwraeth morol llawer
gwell. Rydym yn cydnabod y dystiolaeth
fyd-eang gryf sy’n
dangos y buddion o gael ardaloedd
gwarchodaeth morol lefel
uchel ac yn
rhagweld y bydd Cymru yn
gweld cymariaethau tebyg
ar ôl
pennu Parthau Cadwraeth
Morol lefel
gwarchodaeth uchel. Yn benodol, gofynnwn i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi’r alwad i
ailddynodi Gwarchodfa Natur
Forol Skomer, sef
unig warchodfa natur
forol Cymru, sydd heb lawer o warchodaeth
ar hyn o
bryd, yn
ardal â lefel gwarchodadeth
uchel pan ddaw’n Barth Cadwraeth Morol pan
ddaw darpariaethau Parthau
Cadwraeth Morol Deddf y
Môr a Mynediad i’r
Arfordir i rym yng Nghymru.
Does yr un
man yn nyfroedd Cymru sydd
wedi’i ddiogelu’n llawn
rhag effeithiau uniongyrchol
y fod ddynol. Mae angen
Parthau Cadwraeth Morol
lefel gwarchodaeth uchel
arnom i: ddarparu rhywle i
fywyd gwyllt morol
fodoli a ffynnu heb i
ni ymyrryd
arnynt – rydyn ni’n
gwneud hyn
ar y tir,
felly ni ddylid cael
safonau is ar gyfer y môr; galluogi
ecosystemau i ailsefydlu ar
ôl effeithiau uniongyrchol
y fod ddynol a gwella
eu hydwythedd; diogelu’r ecosystem forol er mwyn yr holl nwyddau a
gwasanaethau mae’n eu
darparu i ni ac na allwn oroesi
hebddynt; ein helpu i
ddeall effeithiau pwysau’r fod
ddynol ar
amgylchedd y môr a dod i
ddeall sut
beth yw
ecosystem forol sydd heb ei heffeithio
arni gennym
ni. Pwrpas Parthau Cadwraeth
Morol lefel
gwarchodaeth uchel yw diogelu a gwella’r ecosystemau sydd o
fewn iddynt, nid
diogelu poblogaethau pysgod a
physgod cregyn yn unig.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
2 Hydref 2012
Prif ddeisebydd: Blaise Bullimore
Nifer y llofnodion: 298
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau